ABV: 0%
Calorïau per 100ml: 22
Ysgrifennon ni rywbeth ar Botivo ar y tudalennau yma o’r blaen, ond pan welon ni’r ddiod fyrlymus barod yma, roeddem ni’n meddwl ei bod yn haeddu ei phwt bach ei hun.
Yn union fel Botivo arferol, mae hon wedi’i gwneud o gynhwysion naturiol ar Fferm Lannock yn sir Hertford, gyda blasau croen oren, rhosmari, teim, a finegr seidr – i gyd wedi’u cymysgu gyda dŵr swigod ac mewn can cyfleus gyda lluniau ffynci. Heb fod yn rhy felys nac yn rhy sur. Wedi’i hoeri’n dda, mae’n flasus tu hwnt, ac yn berffaith ar gyfer picnic!