Carlsberg Nordic

English | Cymraeg

Ein barn ar Carlsberg Nordic

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob can: 46 (14 per 100ml)
Sgôr: 4 out of 5

Pan lansiwyd Carlsberg Zero yn 2015, roedd hi’n anochel y byddai’r bragwyr yn honni mai hwn oed “yn ôl pob tebyg, cwrw di-alcohol gorau’r byd”. Yn anffodus, doedd ein panel profi ni ddim yn cytuno.

Erbyn hyn, mae Carlsberg Nordic wedi disodli’r hen Zero ar silffoedd ein gwlad. Ai hwn, felly, yw’r gorau? Nid yn hollol, ond mae’n well o dipyn na’i ragflaenydd. Mae golwg well arno am un peth. Yn lle diwyg gwyrdd gwelw Carlsberg Zero, mae caniau Nordic yn las tywyll trawiadol.

Lliw euraidd dwfn sydd i’r cwrw ei hunan. Mae’n ysgafn, ychydig yn ffrwythus, a heb ddim o’r adflas annifyr sydd gan sawl cwrw di-alcohol arall. Yn ôl y sôn, mae’n boblogaidd yn Nenmarc ers blynyddoedd lawer, ac wedi cael sêl bendith Llys Brenhinol y wlad. Am ryw reswm, mae’n cael ei fragu yn y Swistir. Bid a fo am hynny, mae’n werth rhoi cynnig arno, yn sicr.

Tynnwyd Carlsberg Nordic o’r silffoedd yng ngwledydd Prydain ym Mawrth 2021. Nid yw’n glir a ddaw e’n ôl ynteu a fydd cwrw di-alcohol arall gan Carlsberg yn cymryd ei le.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​