Cryfder: 0.4%
Calorïau ymhob potelaid:
Sgôr: 4 o 5
DC Sauvignon Blanc
English | Cymraeg
Ein barn ar DC Sauvignon Blanc
Sgôr:
4/5
Dyma adolygiad gan ein hawduron gwâdd Trevor Twohig ac Adela Meer
Darling Cellars ar arfordir gorllewinol De Affrica sy’n gwneud y DC Sauvignon Blanc yma. Mae’n dod mewn potel drawiadol gyda label gynnil, glasurol yn dangos gwinwydden led-wyllt. Yn wahanol i rai gwinoedd di-alcohol, mae golwg gwin drud o safon arno. Dyma gwmni gwinoedd traddodiadol sydd o ddifri’ am winoedd dirwestol!
Wrth ei agor, mae arogl cyfarwydd gwin gwyn. Ond roedd ein dau flaswr yn anghytûn ynglŷn â’r blas. Yn ôl un, roedd hi’n “ddiod addfwyn, heb fod yn rhy felys, gyda blas caboledig”. Ym marn y llall, roedd hi braidd yn brin o flas, ar wahân i sawr cryf gwsberis. Roedd eu sgoriau nhw yn eithaf gwahanol hefyd: pum pwynt allan o bump gan un, a thri allan o bump gan y llall. Felly, fe roddon ni sgôr o bedwar iddi yn y diwedd. Fel pob tro, bydd rhaid i chi farnu drosoch chi’ch hunan.
Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.