Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 67 (27 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5
Mae’r teulu McGuigan yn tyfu grawnwin yn Ne Cymru Newydd ers 1880, pan ddechreuodd Owen McGuigan wneud gwin yno er mwyn ychwanegu at ei incwm fel ffermwr llaeth. Erbyn hyn, mae gyda nhw fwy na 60 o winoedd ac maen nhw’n allforio i 20 o wledydd.
Mae’r gwyn prin-ei-alcohol yma ymhlith eu gwinoedd mwyaf newydd, a rhaid cydnabod ei fod e gyda’r gorau yn y dosbarth 0.5%. Mae’n un o bâr gyda rosé, ac maen nhw ill dau wedi’u cyflwyno’n gampus. Mae’r dyluniad y ddwy botel yn gyrru’r meddwl yn syth i synfyfyrio am hafau hirfelyn tesog, picnics a barbeciws. Ac os sbïwch yn ofalus (gydag ysbienddrych neu beidio) ar y patrwm o ddail, blodau a phili-palod, mae wyneb yn dechrau ymrithio.
Mae’r Moscato yma braidd yn felys, a bydd rhaid i chi benderfynu drosoch eich hunan ydy e’n rhy felys i chi. Roedd rhai o’n panel profi wrth eu bodd; a rhai eraill yn awchu am rhywbeth mymryn yn sychach.
Mae’r gwyn a’r rosé ar werth ar hyn o bryd yn Marks & Spencer, wrth ochr Moscato pefriog Benjamin Truffer. £5 yw pris y ddau, sydd braidd yn ddrud, efallai, am win di-alcohol, ac mae’n amlwg bod y cynhyrchwyr yn anelu am ben ucha’r farchnad.