Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 20
English | Cymraeg
Ein barn ar Edge Hill Hazy IPA.
Sgôr:
5/5
Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 20
Mae’n debyg eich bod chi’n gyfarwydd â’r actor o Sais Tom Holland oherwydd y ffilmiau Spiderman, ond ers 2024 mae e hefyd yn bragu cwrw di-alcohol o safon.
Yn 2023 siaradodd yn gignoeth o onest am ei berthynas anodd e gydag alcohol, a dyna, yn sicr, un o’i resymau dros fynd ati i ychwanegu at yr amrywiaeth o ddiodydd dirwestol sydd ar gael.
Nid wrth ei big mae prynu cyffylog, meddan nhw, ond mae rhaid dweud bod golwg ragorol ar holl ddiodydd Bero – sef hwn, cwrw melyn, a chwrw gwyn. Mae’r cyfuniad o aur a lliwiau cynnil yn debyg i lifrai hen gwmni rheilffyrdd neu westy Edwardaidd moethus.
Dyw’r ddiod tu fewn i’r can ddim yn siomi chwaith. Cwrw gwelw cytbwys yw Edge Hill gyda’r union swm derbyniol o hopys chwerw. Mwynhewch e wedi’i oeri’n dda!
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.