Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 14
English | Cymraeg
Ysgafn a bywiog, gydag blas lemwn naturiol a ffres
Sgôr:
5/5
Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 14
Mae’r cwrw melyn yma yn un o driawd o gyrfau crefftus gan Dirwest – cwmni diodydd di-alcohol o Fro Morgannwg. Mae’n gwrw ysgafn a bywiog, gydag adflas lemwn naturiol a ffres. Ac yn wahanol i lawer cwrw ffrwythus, dyw’r blasau ffrwyth na’r melystra ddim yn boddi’r barlys a’r ŷd. Campus!
Mae’r enw’n dod o un o ganeuon protest mwyaf poblogaidd Cymru’r 1970au, a’r label wedi’i phatrymau ar faner Owain Glyndŵr – y dyn a’i cyhoeddodd ei hun yn Dywysog Cymru yn 1400. Cwrw gwladgarol iawn, felly!
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.