Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 56 (168 ymhob potel)
Sgôr: 3 o 5
Eisberg yw hen-dad-cu y gwinoedd di-alcohol. Yn hanu o’r Almaen, mae ar werth ym Mhrydain ers 1985. Efallai bydd rhai’n cofio’r hybyseb teledu ddigri’ yma o’r dyddiau cynnar.
Felly, ydy’r un gwreiddiol yn un o’r goreuon? Wel, mae’n sicr ei fod e wedi gwella ers y tro diwethaf i ni ei yfed, tua dechrau’r ganrif. Mae arogl neis arno fe, a blas ffrwythau pleserus – “gwsbers a blasau trofannol clasurol” yn ôl y broliant ar y botel.
Er hynny, dyw’r lliw ddim yn rhagorol – gwelw iawn am Sauvignon Blanc – a’r blas at ei gilydd yn eithaf tenau. Diod ysgafn ddigon dymunol os ydych chi’n chwilio am rywbeth sydd ddim yn rhy felys.