Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 24
Gwin yw hwn a’i wreiddiau’n ddwfn yn Nyffryn Napa, Califfornia, lle mae “awel oer a niwl yn gadael i’r grawnwin aeddfedu’n araf a chyson”. O ganlyniad, yn ôl y gwneuthurwyr Gwindy Sutter Home, mae’n rhoi i ni brofiad o “ flasau afalaidd hufennog” a “nodau sitrws cras”.
Gormodiaeth yw honno, efallai, ond dyw hwn ddim yn win gwael o gwbl. Fel nifer o winoedd gwynion di-alcohol eraill, mae e braidd yn felys, ond dyw’r melystra ddim yn llethol o bell ffordd, ac mae’n llawn haeddu 3 allan o 5.