Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 23
English | Cymraeg
Mae gan y ddiod ei hun liw cynnes braf ac arogl orenau hyfryd.
Sgôr:
3/5
Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 23
Mae Lisa King yn fwyaf adnabyddus fel sylfaenydd y fentr gymdeithasol o Seland Newydd Eat My Lunch – sy’n cynnig cinio am ddim i blentyn anghenus bob tro mae rhywun yn archebu pryd o fwyd ganddyn nhw. Yn 2020 dechreuodd Lisa gwmni Free AF Drinks ar ôl sylwi ei bod hi’n cael ysbeidiau o’r pendro ar ôl yfed alcohol.
Mae’r Apero Spritz yma yn un o dri choctel gan ei chwmni a gyrhaeddodd silffoedd Morrison’s yn 2025. Mae can yn anodd ei golli, gyda phatrwm troellog o liwiau llachar. Mae gan y ddiod ei hun liw cynnes braf ac arogl orenau hyfryd. Dyw chwerwder arferol aperitivo ddim yn dod drwodd tan yr adflas, lle mae hefyd wres da sy’n dod o Afterglow ™, cymysgedd arbennig o gynhwysion naturiol sy’n cynhesu’r geg.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.