Free Star Prime Time

English | Cymraeg

Ein barn ar Free Star Prime Time

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 62 (19 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Yn ôl yn 2017 roedd tri Llundeiniwr – Felix, Eddy a Charlie – yn sefyllian yn y dafarn yn pendroni beth i’w yfed os oedden nhw am gymdeithasu heb alcohol. O graffu ar y detholiad truenus o ddiodydd di-alcohol oedd ar gael, penderfynon nhw greu eu diodydd eu hunain.

Mae Free Star Prime Time wedi’i wneud o farlys, hopys a dŵr; ond dim burum, felly does dim alcohol ynddo. Yn ei le, mae’r bragwyr wedi ychwanegu amrywiaeth o gynhwysion naturiol.

Mae wedi ennill un o Wobrau Cwrw’r Byd yn 2019. Yn anffodus, doedden ni ddim yn credu ei fod cystal â hynny. Mae’n ddiod ddigon dymunol: cawson ni fymryn o lemwn, blasau hopys mawr, ac ambell berlysieuyn arall mwy anodd ei adnabod. Y maen tramgwydd i ni oedd nad oedd e’n blasu’n debyg iawn i gwrw. Efallai ei bod yn fwy cywir ei ddisgrifio fel diod ysgafn i oedolion.

Fel pob tro, bydd rhaid i chi farnu drosoch chi’ch hunan! Mae ar gael yn Sainsbury’s.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​