Good Karma Happy Pils

English | Cymraeg

Ein barn ar Good Karma Happy Pils

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 96 (29 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwâdd @GlowSober.

Gan eu cyflwyno’u hunain fel rhan o’r Mudiad Myfyriol, mae Bradwyr Good Karma am fod yn rhan o gymdeithas fwy gwyrdd, mwy amrywiol a mwy cydradd. Maen nhw’n defnyddio cynhwysion naturiol ac yn cefnogi prosiectau addysgol a mentrau i adfer yr amgylchedd. Dyma ffordd i wneud i chi deimlo’n dda wrth lymeitian diod.

Mae’r cwrw yma’n tywallt yn ddiddorol. Mae’n denau heb ddim ewyn ac yn debyg yr olwg i seidr. Roedd yr arogl fymryn yn debyg i seidr hefyd: melys iawn, miniog a ffrwythus. Tipyn o ryddhad oedd e nad oedd y blas mor felys. Mae ganddo naws fwyn a chwerw, fel byddwn i’n ei ddisgwyl mewn pilsner, a swigod canolig sy’n ei chadw’n ffres ac ysgafn. Roedd awgrym o adflas sitrws oedd at fy nant i hefyd.

At ei gilydd, roeddwn i’n hoffi’r ddiod, ond roedd e’n llawn anghysondebau: i’r llygaid, y trwyn, a’r tafod. Mae’n ddigon mwyn i’w baru’n hawdd gyda bwydydd, ac i apelio i’r rhai nad ydyn nhw’n hoffi blasau rhy gryf mewn lager.

Dwi wrth fy modd efo’r can: llachar, hapus, ac wed’i anelu’n berffaith at blant y mileniwm, sy’n ymddiddori’n fwy o hyd mewn byw’n sobr. Dwi ddim mor siŵr a yw’r jôc yn yr enw’n un ddoeth. Ond mae hi’n ddiod ddeniadol yr olwg a llawn bwriadau da.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​