Good Karma Mantra Lager

English | Cymraeg

Ein barn ar Good Karma Mantra Lager

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: Dim gwybodaeth

Dyma adolygiad gan awdur gwadd, ein Rheolwr Codi Arian ac Ymgysylltu, Sven Stears

Eisteddais i wrth y bwrdd gartref gyda’r cwrw yma a llond plât o tsili. Sôn am gyfuniad perffaith! Ocê, does neb yn synnu bod cwrw yn cyd-fynd yn dda efo bwyd sbeisiog. Ond mae hwn yn cyd-fynd yn eithriadol dda!

Yn aml, gyda diodydd di-alcohol (a chwrw di-alcohol yn enwedig) mae rhyw ddiffyg blas tua’r diwedd. Mae symlrwydd cwrw fel diod yn aml yn dangos yn union beth sydd ar goll. Mae rhai bragwyr yn ceisio cuddio’r diffyg trwy ychwanegu cynhwysion newydd a blasau cymhleth annisgwyl. Y cyfan mae hyn yn ei wneud yn aml yw gwneud y gwendidau yn amlycach fyth.

Nid felly gyda Good Karma.

Yn fy nhyb i, maen nhw wedi rhoi llawer o sylw i ddewis yr hopys ar gyfer eu diodydd. Gan eu bod nhw’n hanu o Gaint – sir sy’n enwog am ei hopys – mae Good Karma yn eglur iawn am ba hopys sydd ymhob un o’u cyrfau. Mae’n amlwg ei fod yn destun balchder iddyn nhw. Ac mae eu balchder yn dod drwodd yn glir. Mae’r cwrw yma’n ffrwydrad o flasau: dim gwacter rhyfedd ond isnodau cynnil drwyddo draw.

Os na chawsoch chi eich ysbrydoli gan gwrw di-alcohol hyd yn hyn, rhowch gynnig ar hwn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​