Cryfder: 0.4%
Calorïau ymhob 100ml: 24
English | Cymraeg
Cwrw melyn ysgafn a bywiog gyda digon o flas a digon o drwch
Sgôr:
5/5
Cryfder: 0.4%
Calorïau ymhob 100ml: 24
Dechreuodd Louis gwmni High & Dry ar ôl iddo gymryd blwyddyn bant o ddiota yn 2023. Roedd e wrth ei fodd ag eglurder ei feddwl sobr ond hefyd yn gweld eisiau “pleser syml cael cwrw yn ei bryd”. Felly, penderfynodd greu ei gwrw di-alcohol ei hun.
Ar ôl pori yn llyfr Merlin Sheldrake Entangled Life magodd e ddiddordeb mawr mewn madarch, ac mae dau fath o ffwng o Ffyngariwm Bryste yn y cwrw yma, a nhw ill dau’n cael eu defnyddio mewn moddion Tsieineaidd traddodiadol ers canrifoedd.
Cwrw melyn ysgafn a bywiog yw’r canlyniad, gyda digon o flas a digon o drwch. Os yw cwrw crefftus at eich dant, ewch amdani!
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.