Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 11
English | Cymraeg
Ein barn ar Green Mountain.
Sgôr:
5/5
Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 11
Bragdy cymharol newydd yw Thornbridge, wedi’i sefydlu yn 2005 yng ngerddi plasty crand yn sir Derby. Buon nhw’n adnabyddus o’r cychwyn cyntaf am ddyfeisgarwch a blasau annisgwyl, ac am ddiwyg hyfryd eu caniau a photeli.
Maen nhw’n creu cryn amrywiaeth o gyrfau gwelw, ac mae’r cwrw gwelw cymylog yma yn un o’u goreuon. Heb hel dail, dyma gwrw gwelw gwirioneddol dda – a gan ei fod yn ddi-alcohol, gallwch chi fwynhau faint fynnwch chi ohono!
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.