Hardy’s Chardonnay

English | Cymraeg

Ein barn ar Hardy’s Chardonnay

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.05%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 53 (21 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Wedi’i sefydlu yn ôl yn 1853, mae Hardy’s yn un o gwmnïau gwin mwyaf Awstralia, ac mae eu gwinoedd yn arbennig o boblogaidd yr ochr yma i’r blaned hefyd.

Hyd y gwyddon ni, dyma eu gwin di-alcohol cyntaf. Chardonnay yw e, sy’n ddewis diddorol. Rhywogaeth grawnwin yw hi nad yw mor boblogaidd ag oedd hi, ond mae digon o bobl yn hoff iawn o Chardonnay o hyd. Os ydych chi’n un ohonyn nhw, efallai bydd hwn at eich dant. Mae ganddo’r lliw melyn sydd mor nodweddiadol o Chardonnay a’r blas derw oedd yn gymaint o beth yn yr 1990au.

Mae fymryn yn felys, o bosib, ond yn ddiod ddymunol iawn er hynny. Rhowch gynnig arno! Gallwch chi ei brynu yn Tesco.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​