Heineken 0.0

English | Cymraeg

Ein barn ar Heineken 0.0

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid:69 (21 per 100ml)
Sgôr: Wrthi aros gwybodaeth

Pan lansiodd Heineken eu cwrw di-alcohol cyntaf ym Mawrth 2017, gydag ymgyrch farchnata werth £2.5 miliwn, roedd hi’n arwydd sicr bod y farchnad ddiodydd ‘sych’ yn un mae’r prif fragwyr yn ei chymryd o ddifri.

Mae Heineken yn dosbarthu’r ddiod newydd i darfarndai lu. Fel Carlsberg 0.0, mae’n dod mewn potel smart sy’n gweiddi’n groch, “Yfwch fi wrth i wylio’r fftwbol ar y sgrîn fawr!” Ond nid y dafarn yw’r unig le gewch chi hwn chwaith, gan ei fod hefyd yn un o nifer o gyrfau sydd bellach ar werth yn adran ddi-alcohol wych siopau mwyaf Tesco.

Fel Erdinger a FitBeer, mae Heineken hefyd yn gobeithio denu “cwsmeriaid ifanc sy’n ystyried ei hiechyd ac sy’n yfed llai neu’n ymwrthod yn llwyr”, ac mae llwyth o wybodaeth maeth ar gefn y botel.

Mae Gerard Heineken a’i ddisgynyddion yn bragu cwrw yn Amsterdam ers 1864, felly basen ni’n licio meddwl ’bod nhw’n gwybod beth maen nhw’n ei wneud erbyn hyn. Mae’r cwrw yma yn awgrymu eu bod nhw. Mae’r cwmni’n dweud bod yr ymateb i Heineken 0.0 hyd yn hyn yn un “da ran amlaf o lawer” a bod eu diod nhw yn “ddewisach o dipyn” gan yfwyr na chyrfau di-alcohol eraill. Mae’n hawdd gweld pam.

Mae gyda fe olwg, gwynt a blas lager o safon. Mae’n tywallt yn dda gyda lliw neis a digon o ewyn gwyn ar y top, a does gyda fe ddim o’r adflas annifyr sy’n difetha sawl cwrw di-alcohol. Mae hwn yn haeddu sgôr o 4 o leiaf, meddwn ni.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​