Highball Ginger Dram

English | Cymraeg

Ein barn ar Highball Ginger Dram

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: 78 (31 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Yn ôl y sôn, daeth cwrw sinsir sych yn boblogaidd yn ystod yn Gwaharddiad ar y ddiod gadarn yn yr Unol Daleithiau, am fod ei flas melys-ond-miniog yn dda at guddio blasau ych-a-fi gwirodydd a ddistyllwyd gartref. Nid yw’r Ginger Dram yma, ar y llaw arall, yn cynnwys yr un diferyn o alcohol. Yn lle hwnnw, yn ogystal â sinsir wrth gwrs, mymryn o fanila ac awgrym bach o flasau wisgi mawnaidd. Mae’n eitha neis!

Mae’n rhan o gasgliad o goctels di-alcohol gan gwmni Highball o’r Fforest Newydd.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​