ISH Mojito

English | Cymraeg

Ein barn ar ISH Mojito

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob can: 95 (38 ymhob 100ml)

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd@GlowSober

Sefydlwyd ISH Spirits yn 2018 yn Nenmarc, ac maen nhw wedi creu cryn gasgliad o ddiodydd di-alcohol ers hynny. Gydag ethos yfed meddylgar, ymroddiad i weithio’n wyrdd, a phwyslais ar gynhwysion naturiol, mae’n anodd peidio â’u hoffi.

Mae gan y ddiod yma olwg ac arogl mojito ac mae ynddi’r union swm iawn o swigod. Mae sawl haenen o flas. Mintys yw’r blas cryfaf o bell ffordd ond mae’r leim yn ei gydbwyso. Sbeisiau hyfryd yw’r blasau sy’n dod drwodd ar y diwedd ac yn aros yn hir, gan ogleisio’r tafod. Daw’r rheini o’r wirod sylfaenol ISH Caribbean Spiced Spirit.

Dwi wrth fy modd efo’r ddiod yma, a bydd hi’n dal ei thir, mi gredaf, mewn marchnad gystadleuol iawn.

Dwi ddim mor hoff o’r caniau – rhy ddi-fflach ac eto’n rhy lachar. Mae’r ddiod tu fewn yn haeddu gwell.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​