Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 18
English | Cymraeg
Ein barn ar Mash Gang Journey Juice.
Sgôr:
5/5
Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 18
Mae’r cwrw gwelw hynod flasus yma yn dod mewn can bach twt gyda llun annwyl o ddau aderyn trofannol yn cludo’r cwrw i’r cwsmer! Ac yn wahanol i ambell gwrw ffrwythau – yn enwedig rhai di-alcohol – mae hwn yn blasu fel cwrw, nid pop, gyda chydbwysedd perffaith o hopys, mango a leim.
Rydyn ni’n tybio byddai fe’n cyd-fynd yn dda gyda bwyd Indiaidd sbeisiog, ond bydd rhaid i chi farnu drosoch chi’ch hun pa fwyd sydd orau gennych chi gyda fe.
O ran yr enw, term ar lafar gwlad yw Journey Juice ar gyfer can o gwrw ar gyfer ei yfed wrth deithio rhwng tafarndai neu ar y ffordd adref o’r dafarn. Yn wahanol i lawer “cwrw teithio” arall, fyddwch chi ddim yn difaru cael hwn!
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.