Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 8
English | Cymraeg
Ein barn ar Jaipur.
Sgôr:
5/5
Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 8
Mae Bragdy Thornbridge wedi hen ennill ei blwyf ymhlith caredigion cwrw crefftus, a bydd y cwrw gwelw yma’n sicr o ennill rhagor o ffyddloniaid i’r brand. Ar ambell gyfrif, mae’n weddol o debyg i’w cwrw Green Mountain 0.5%. Y blas pîn sy’n ei wneud yn wahanol – a hwnnw’n dod o hopys arbennig (nid o goed pinwydd!). Felly, os ydych chi damaid bach yn anturus o ran cwrw, ewch amdani!
Mae e hefyd yn rhyfeddol o brin o galorïau.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.