Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 22
English | Cymraeg
Cwrw gwelw cymylog, llawn blasau ffrwythau
Sgôr:
5/5
Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 22
Math o hopys o ogledd America yw Azacca, wedi’i enwi ar ôl duw amaeth Haiti, a dyma’r prif fath o hopys yn y cwrw yma. Mae’n creu cwrw gwelw cymylog, llawn blasau ffrwythau, gydag awgrym o tanjerîns a phinafalau.
Os ydych chi wedi mwynhau Clwb Tropica o Gasnewydd, dylai’r cwrw yma o Gaeredin fod at eich dant.
Mae diwyg y can wedi’i seilio ar y cuddliw dazzle a ddefnyddid erstalwm i guddio siapau llongau adeg rhyfel, rhag ofn ymosodiadau’r gelyn. Yn ôl Jump Ship, mae’r ddiod yma yn dangos bod cwrw gwelw di-alcohol yn gallu bod yr un mor feiddgar, lliwgar, a thwyllodrus o ran ei gryfder.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.