Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 15
English | Cymraeg
O’r cychwyn cyntaf, mae ganddo arogl afalau gwyrdd hyfryd.
Sgôr:
5/5
Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 15
Ymadrodd Ffrangeg yw ‘Blanc de Blancs’ i ddisgrifio gwinoedd pefriog sydd wedi’u gwneud o rawnwin gwyn yn unig – yn yr achos yma, dim ond grawnwin Chardonnay o’r Eidal.
O’r cychwyn cyntaf, mae ganddo arogl afalau gwyrdd hyfryd. Wrth ei dywallt, mae’n welw iawn a bywiog iawn, sydd yn ei wneud yn wahanol iawn i lawer gwin di-alcohol. Os yw gwinoedd sych, awchus at eich dant, dyma ddiod ddelfrydol i chi.
Yn ddiddorol, mae wedi’i greu trwy broses eplesu sy’n defnyddio bacteria yn lle burum, gan greu naws a blas gwin heb yr alcohol. Cynhwysyn arall yw te gwyrdd, sy’n ychwanegu elfen arbennig iawn.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.