Cryfder: dim mwy na 0.05%
Calorïau ymhob potelaid: 190 (38 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5
Wrth brynu seidr trwy’r pwmp, Strongbow gewch chi gan amlaf. Ond o ran seidr mewn caniau a photeli mae brenin newydd wedi codi: Kopparberg. Mae’r seidrau Swedaidd hyn i’w gweld yn gyson tua brig y tabl o ran gwerthiant mewn siopau a thafarndai.
Twf rhyfeddol o gyflym gawson nhw hefyd. Mor ddiweddar â 1994 y dechreuodd y brodyr Peter a Dan-Anders Bronsman ar eu mentr fawr i adfywio seidr eu mamwlad. Dim ond ers 2006 maen nhw’n ei allforio i wledydd Prydain.
Fel mae’r gwneuthurwyr yn cydnabod, seidrau melys yw rhain. Melys iawn. Does fawr o olwg seidr arnyn nhw chwaith. Maen nhw naill ai’n welw iawn – bron yn ddi-liw – neu mae ganddynt ryw liw coch o ffrwythau eraill. P’un bynnag, maen nhw mor bell i ffwrdd o seidr traddodiadol ag y gallwch chi fod heb hepgor yr afalau’n gyfan gwbl. Os ydych chi’n un o’r gwybodusion seidr (neu snobyddion seidr, ym marn rhai), mae’n debyg na fydd rhai Kopparberg at eich dant.
Er hynny, mae’n eglur bod galw mawr am seidr melys, hawdd-ei-yfed, fel mae twf aruthrol Strong Dark Fruityn ei ddangos. Os ydych chithau’n rhan o’r chwyldro yma, mae’n bosibl mai Kopparberg Mixed Fruit 0% yw’r union ddiod i chi. O’i chymharu â’r un blas ar gryfder o 4%, roeddwn ni’n methu blasu’r gwahaniaeth.
Felly, os seidr ffrwythus yw’ch peth chi, a chithau hefyd am leihau rywfaint ar yr alcohol, bant â chi! Mae Kopparberg wedi darparu ar eich cyfer. I ni, mae hwn yn haeddu 4 allan o 5 am fod yn fersiwn di-alcohol rhagorol o ddiod boblogaidd.