Kopparberg Mixed Fruit Tropical

English | Cymraeg

Ein barn ar Kopparberg Mixed Fruit Tropical.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%

Mae Kopparberg yn enwog am greu seidrau melys gyda blasau sy’n mynd ymhell tu hwnt i’r afalau arferol. Fel pob un o’u seidrau, mae hwn yn sicr o beidio â phlesio’r traddodiadwyr, ond roedden ni’n ei hoffi gryn dipyn. Mae’r blas yn felys, does dim gwadu hynny, ond heb fod yn rhy felys ac wedi’i gydbwyso gan fymryn o surni. Mae’n llawn blasau ffrwythus naturiol: mango a phinafal yn bennaf, gyda thipyn o frathiad afal. Dymunol iawn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​