Lowlander Wit

English | Cymraeg

A review of Lowlander Wit

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 3 o 5

Fel mae’r enw yn ei awgrymu, bragdy o’r Iseldiroedd yw Lowlander. Wedi’i sefydlu yn Amsterdam yn 2016, bragdy cymharol newydd yw e, ond dydyn ni ddim ar ei hôl yn ennill eu plwyf.

Gan fragu cyrfau gyda amrywiaeth o berlysiau a sbeis – gan gynnwys rhai sy’n i’w cael gan amlaf mewn gwirodydd – maen nhw ar flaen y gad yn y chwyldroi cwrw crefftus, gydag ambell gwrw go chwyldroadol, gan gynnwys hwn!

Witbier yw gair yr Iseldirwyr am yr hyn mae’r Almaenwyr yn ei alw’n weißbier – sef cwrw gwyn neu gwrw ŷd (yn dibynnu ar ba gyfieithiad sydd orau gennych). Fel pob witbier, cwrw cymylog yw hwn, ond yn wahanol i’r rhan fwyaf ohonyn, mae ganddo hefyd flas sitrws cryf. Mae rheswm da dros hwnnw, sef fod Lowlander yn cydweithio â PeelPioneers ar gynllun clyfar i gasglu crwyn lemonau ac orennau o fwytai a thafarndai a’u troi at ddibenion newydd – sef cwrw, yn yr achos yma.

Cwrw i gwrwgarwyr sy’n caru arbrofi yw hwn. Digon priodol, felly, fod y label yn dangos llun sydd wedi’i seilio ar long danfor arbrofol Cornelius Drebbel. Dangosodd yr Iseldirwr dyfeisgar ei gwch rhwyfo tanddwr i’r Brenin Iago I a miloedd o Lundeinwyr trwy deithio ynddo yn Afon Tafwys tua 1620.

Os ydych chi’n un mawr am gwrw traddodiadol, efallai na fydd hwn at eich dant. Os ydych chi’n chwilio am flasau newydd ac annisgwyl, dylech chi roi cynnig ar hwn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​