Lucky Saint

English | Cymraeg

Ein barn ar Lucky Saint.

Sgôr:

5/5

Cwrw Swyddogol Ionawr Sych 2022

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 53 (16 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Sefydlodd Luke Boase fragdy Lucky Saint gan amcanu “newid sut mae’r byd yn meddwl am gwrw di-alcohol”. Heliodd ei bac am yr Almaen, lle treuliodd fisoedd yn astudio bragu a chreu’r cwrw hwn, gan ei lansio yn 2018.

Ers hynny, mae Lucky Saint wedi mynd o nerth i nerth, ac mae ar gael mewn mannau mor amrywiol â sinemâu Everyman a bwytai byrgyrs Honest. Mae’n hawdd gweld pam: dyma gwrw rhagorol. Mae’ ysgafn ac adfywiol, ac yn rhydd o’r holl wendidau sy’n plagio cymaint o gyrfau di-alcohol. Er mai “lager” yw e yn swyddogol – am iddo gael ei aeddfedu’n oer – cwrw cymylog hanner ffordd rhwng weißbier a chwrw sur yw e yn ein barn ni. Yn hyn o beth, efallai ei fod e’n debygol o apelio mwy i garedigion cwrw casgen nag yfwyr y prif gyrfau melyn.

Cwrw gwych yr olwg yw e hefyd, mewn potel gwta, Americanaidd ei diwyg, gyda lliwiau glas a phres hyfryd, a buwch-fach-goch annwyl iawn. Mae’r bragwyr hefyd yn gwarantu hon yn ddiod figanaidd, sy’n sicr o blesio llawer o bobl. Rhown iddo’r sgôr orau!

Bachwch eich Lucky Saint yma. Defnyddiwch y côd DRYJAN20 hyd at 1 Chwefror 2022 i gael 20% oddi ar bris eich archeb

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​