Magners 0.0

English | Cymraeg

Ein barn ar Magners 0.0.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 66 (20 ymhob 100ml)

Mae seidr Magners yn cael ei yfed yn Iwerddon ers yr 1930au, ac mae hefyd yn boblogaidd tu hwnt ym Mhrydain ers cael ei gyflwyno yma 1999. Cafodd y seidr di-alcohol yma ei lansio yn 2015.

Diod fyrlymog yw hon, a lled binc ei lliw. Ar y dechrau mae hi’n blasu’n eithaf melys ond mae yma hefyd frathiad afalaidd braf. Mae’n debyg mai afalau bwyta yn hytrach nag afalau seidr yw’r prif gynhwysion. Felly, fydd hi ddim at ddant y traddodiadwyr, ond os yw seidr gweddol felys at eich dant efallai bydd yn eich plesio.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​