Martini Floreale

English | Cymraeg

Ein barn ar Martini Floreale.

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 66

Mae aperitivi – diodydd i’w mwynhau cyn pryd o fwyd – yn draddodiad hirhoedlog yn yr Eidal. Yn weddol aml, diodydd di-alcohol ydyn nhw hefyd. Felly, mae’r ddiod newydd yma gan Martini yn un go hen-ffasiwn mewn ffordd. Newydd neu hen, mae’n ddigon blasus!

Mae ganddi’r cyfuniad o winoedd a pherlysiau sy’n nodweddiadol o Martini. Mae’n flas fydd yn gyfarwydd i bawb ryw oedran benodol – glân ac ysgafn ond cynhesol hefyd. Cymysgwch hi gyda thonic, dŵr soda, neu lemonêd, yn ôl eich chwaeth eich hun.

Ac os yw Martini Floreale at eich dant, efallai byddwch chi am roi cynnig ar Martini Vibrante.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​