ABV: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 23
English | Cymraeg
Weissbier yw hwn, sef cwrw mwy gwyn ei liw, gyda mwy o ŷd na brag barlys.
Sgôr:
5/5
ABV: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 23
Wedi’i lansio yn hydref 2025, dyma’r pedwerydd cwrw gan Lucky Saint, gan ychwanegu at gasgliad sydd eisoes yn cynnwys cwrw melyn, cwrw lemwn, a chwrw gwelw – a phob un o’r rheini wedi derbyn 5 seren gennym ni. Weissbier yw hwn, sef cwrw mwy gwyn ei liw, gyda mwy o ŷd na brag barlys.
Fel sy’n arferol gyda chwrw gwyn, mae hwn heb ei ffiltro, sy’n rhoi iddo ddigon o drwch, ynghyd â mymryn o lymder o’r blas sitrws cryf, ac adflas cynnil clofs. Gyda’i gilydd, mae’r rhain i gyd yn cynnig amrywiad diddorol ar broffil arferol Weissbier. Yn hyn o beth, mae’n nodweddiadol o broffil y bragdy, sy’n cynnwys elfennau o Weissbier a chwrw sur. Os ydych chi’n hoffi eu cyrfau eraill, bydd hwn at eich dant.
Dyma gwrw da i’w lymeitian gyda bwydydd bras neu sbeisiog – ac mae’r botel 500ml fawr yn ei wneud yn ddelfrydol at y bwrdd cinio.
Diod arall o safon gan Lucky Saint, a sgôr arall o 5 seren oddi wrthym ni!
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.