Mocktails Caffe Carnivale Espresso Martini

English | Cymraeg

Ein barn ar Mocktails Caffe Carnivale Espresso Martini.

Sgôr:

5/5

ABV: 0%
Calorïau ymhob can: 98 (49 ymhob 100ml)

Hyd yn hyd mae diodydd Mocktails wedi bod yn eithaf ffrwythus: Mockapolitan, Mockarita, Sansgria, a Mockscow Mule. Felly, mae’r Espresso Martini yma, a lansiwyd yn 2022, yn ychwanegiad gwahanol a diddorol i’r casgliad.

Mae hon wedi’i gwneud gyda choco a fanila yn ogystal â choffi. Mae hi’n siocledus heb fod yn rhy siocledus. Mae cryn dipyn o siwgr ynddi hi ond dyw’r melystra ddim yn boddi’r blasau eraill. Ac er gwaethaf llwyr absenoldeb alcohol, mae ganddi adflas eithaf meddwol. At ei gilydd, dyma bwdin moethus mewn gwydryn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​