Morrison’s Low Alcohol Cider

English | Cymraeg

Ein barn ar Morrison’s Low Alcohol Cider

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0.09%
Calorïau ymhob potelaid: Wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 2 o 5


Hyd y gwyddon ni, Morrisons, Sainsbury’s a Waitrose yw’r unig rai o’r siopau bwyd mawrion sydd wedi mentro marchnata eu seidr di-alcohol eu hunain. Felly, pob ddyledus glod.

Y cwestiwn nesaf yw: fasen ni eisiau eu hyfed nhw? Yn yr achos yma, na fasen, o bosib’.

Fel y rhan fwyaf o seidrau di-alcohol, cymysgedd o seidr a sudd afal yw hwn, ond maen nhw hefyd wedi ychwanegu rhagor o siwgr. O ganlyniad, mae’n rhy felys, yn ogystal â bod yn rhy nwyog o dipyn. Mae’n sicr o dorri syched, yn enwedig wedi’i oeri, ond dyw e ddim yn seidr gwych.

Fel yn achos nifer o gyrfau di-alcohol (helo ’na, San Miguel a Sainsbury’s) byddai’r seidr yma’n elwa o well pecynnu. Os ydych chi wedi ymroi i ymwrthod â’r ddiod gadarn am dipyn, byddai’n braf cael rhywbeth sy’n teimlo fel diod arbennig o hyd.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​