Nil Point

English | Cymraeg

Ein barn ar Nil Point.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 79 (24 ymhob 100ml)

Mae bragdy Brew Point yn Rhydbeda yn rhan o gwmni hirhoedlog Charles Wells. Hyd y gwyddom ni, Nil Point yw eu cwrw dirwestol cyntaf.

Mae arogl hopys braf wrth agor y can, a lliw ambr cymylog ar ôl ei dywallt. Mae’r blas yn chwerw iawn a’r ddiod ychydig yn denau. Gyda chymaint o hopys, dyma gwrw ar gyfer caredigion cwrw gwelw yn hytrach na chwrw melyn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​