Nirvana Bavarian Helles Lager

English | Cymraeg

Ein barn ar Nirvana Bavarian Helles Lager

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.3%

Calorïau ymhob 100ml: 20

Math o gwrw melyn traddodiadol Bafariaidd yw helles, yn llawn swmp a brag, gyda’r mymryn lleiaf o chwerwder. Mae wedi cael ei ddisgrifio fel “cwrw i garedigion cwrw” ac mae’n cael ei ystyried yn glasur ym myd cwrw.

Wedi’i fragu yn Nwyrain Llundain yn hytrach na De’r Almaen, mae’r cwrw yma gan Nirvana ymhlith y cyrfau helles gorau byddwch chi’n eu blasu. Mae’n drwchus a blasus, a go brin byddech chi’n gwybod mai cwta 0.3% yw ei gryfder. Ewch amdani!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​