Noon Wheat

English | Cymraeg

Ein barn ar Noon Wheat.

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0.5%

Calorïau ymhob 100ml: 20

Gydag enw fel Noon Wheat, roedden ni’n disgwyl Weißbier Almaenig cymylog. Ond rhywbeth ysgafnach a mwy ffrwythus yw hwn. Mae hefyd yn hollol flasus!

Bragwyr cymharol newydd yw Bero, gan gychwyn yn 2024 dan arweiniad yr actor Tom Holland ar y cyd â’r bragwr Grant Wood. A barnu wrth ansawdd y cwrw yma, byddan nhw gyda ni am flynyddoedd eto.

Yn ôl y sôn, enw ci un o sylfaenwyr y cwmni yw Noon. Ac fel mae’r enw yn awgrymu, gallwch chi lymeitian can neu ddau o’r cwrw yma ar ganol dydd heb gur pen yn y prynhawn!

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​