Not Guilty Pinot Grigio

English | Cymraeg

Ein barn ar Not Guilty Pinot Grigio

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%

Calorïau ymhob 100ml: 19

Mae’r gwin Not Guilty yn sicr o ddal eich sylw gyda’i weplun annwyl o gi yn nalfa’r heddlu (am ryw gamwedd fach a hawdd ei maddau, mae’n siŵr – fel cnoi slipers).

Dyma ddiod ddymunol, ysgafn ac adfywiol. Yn aml, mae gwinoedd di-alcohol yn cael eu difetha gan felystra siwgwrllyd, ond mae blas hwn yn eithaf miniog – fel afalau surion neu gwsberis. Mae hi fymryn yn fywiog ond yn bell o fod yn win pefriog. Wedi’i oeri’n ddal, mae’n sicr o dorri’ch syched ar ddiwrnod poeth o haf.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​