Pulp Apple

English | Cymraeg

Ein barn ar Pulp Apple.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob: 100ml: 21

Mentr gymharol newydd gan gwmni Celtic Marches yw Pulp Cider. Maen nhw’n addo seidr o safon sy’n garedig i’r blaned, gan nad yw’r cynhwysion wedi teithio mwy na phum milltir o’r berllan i’r botel.

Mae gan y ddiod yma liw euraidd golau braf ac arogl afalau da. Mae hi ychydig yn fwy miniog na’r seidr Holly GoLightly gan yr un cwmni. At ei gilydd, dyma seidr canolig o felys derbyniol iawn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​