Rattler Zero

English | Cymraeg

Ein barn ar Rattler Zero.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob potelaid: 55 (11 ymhob 100ml)

Plannodd y teulu Healey eu perllan gyntaf yn 1986 ac maen nhw’n ymfalchïo yn eu gwreiddiau dwfn ym mhridd Cernyw. Lansion nhw hwn, eu seidr di-alcohol cyntaf, tua diwedd 2021.

Fel pob un o’u diodydd, daw Ratter Zero mewn potel ddeniadol gyda’u logo unigryw sy’n hanner afal a hanner neidr gynffondrwst. Seidr gwelw a gweddol felys yw e, er bod mymryn o frathiad miniog yn yr adflas. Bydd e’n rhy felys i’r rhai sy’n ymhyfrydu mewn seidr fferm traddodiadol. Ond os yw seidr llai chwerw at eich dant, rhowch gynnig arno. Wedi'r cwbl, mae wedi ennill medal aur yn y Gystadleuaeth Gwin a Gwirodydd Ryngwladol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​