Rothaus Alkoholfrei

English | Cymraeg

Ein barn ar Rothaus Alkoholfrei

Sgôr:

5/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 63 (19 ymhob 100 ml)
Sgôr: 5 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwâdd Trevor Twohig

Dyma gwrw Almaenig blasus a dibynadwy. Yn wir, gallech chi bron â’i gamgymryd am gwrw alcoholaidd arferol. Gyda digon o fywyd ynddo, blas brag llawn a lliw hyfryd, mae’n gwrw penigamp. Fel arfer, dyw cwrw melyn ddim at fy nant i’n arbennig, ond mae hwn yn un da.

Sefydlwyd bragdy Rothaus yn 1791 ac mae’n amlwg eu bod nhw’n falch o’u hanes hir – fel gwelwn ni ar y label draddodiadol, hen-ffasiwn. A dweud y gwir, mae’r naws hynafol yn ychwanegu at swyn y ddiod: gallwch chi ddychmygu ei yfed mewn biergarten yn y Fforest Ddu. Yn sicr, dyw diwyg y botel ddim mor cŵl â nifer o gyrfau di-alcohol mwy newydd, ond mae’r ddiod tu fewn yn rhagori ar nifer o’i cystadleuwyr mwy modern.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​