Sainsbury’s Merlot Rosé

English | Cymraeg

Ein barn ar Sainsbury’s Merlot Rosé

Sgôr:

3/5

ABV: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 53 (21 per 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Mwy na deng mlynedd wedi i Sideways ei alltudio i’r anialwch, mae Merlot yn ôl.

Mae’r Merlot Rosé yma yn rhan o ymdrech ddiweddar gan Sainsbury’s i wella’n sylweddol eu cynnig di-alcohol i gwsmeriaid – ymdrech sydd hefyd yn cynnwys Cabernet Sauvignon, Sauvignon Blanc, a Chardonnay pefriog, a phob un ohonyn nhw wedi’u brandio’n gelfydd gyda lliwiau cynnil ac aderyn trofannol pert, gan roi’r neges i’r byd a’r betws mai gwinoedd i’w cymryd o ddifri’ yw’r rhain.

Gwin coch yw Merlot fel arfer, ac mae grawnwin Merlot bron yn las. Sut daeth y gwin yma allan yn binc, felly? Yn debyg iawn i Zinfandel Gwyn, mae’r cyfan yn dibynnu ar faint mae’r crwyn bach glas yn aros yn y sudd gwyn – digon hir i roi arlliw rhosyn iddo, ond ddim digon i’w droi’n waetgoch.

O ganlyniad, mae gyda ni yma liw rosé perffaith. Mae blas ffrwythaidd da hefyd, ond, gwaetha’r modd, nid blas gwin mohono. At ei gilydd, diod hafaidd braf yw hi, ond ddim cweith cystal â’r Ganarcha Rosé gan Tesco.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​