Sheppy’s Classic Low Alcohol Cider

English | Cymraeg

Ein barn ar Sheppy’s Classic Low Alcohol Cider

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 140 (28 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

David Sheppy yw’r chweched genhedlaeth o’i deulu yn gwneud seidr yng Ngwlad yr Haf – bro sydd, wrth gwrs, yn enwog am ei pherllannau a’i thraddodiad hir o seidr a pherai. Erbyn hyn, mae cwmni Sheppy yn creu rhyw ddeg math o seidr ar eu safle ger pentref prydferth Bradford-on-Tone yn ne-orllewin y sir.

Lansiwyd eu seidr prin-ei-alcohol cyntaf ym Mehefin 2018. O ystyried poblogrwydd mawr seidr, mae gwneuthurwyr y ddiod afalau wedi bod dipyn bach ar ei hôl hi yn sylweddoli gallai fod galw am seidrau llai alcoholaidd. Ond dyma un sy’n gwneud un yr iawn am yr oedi trwy gyflwyno i ni seidr o’r safon orau, a hwnnw’n gwta 0.5% alcohol.

Fel gweddill eu seidrau, daw mewn potel drwsiadus, a’r llun bach o geffyl a chert yn amnaid cynnil tuag at hanes y cwmni. Ar yr olwg gyntaf, seidr braidd yn welw ei liw yw hwn. Ond, a bod yn deg, mae nifer o’r seidrau ar y tudalen yma wedi’i liwio’n fwy tywyll â charamel, a does dim o’r fath ychwanegiadau diangen yn niodydd Sheppy.

Mae’n gwynto fel seidr da, ond yn bwysicaf oll, mae’n blasu fel seidr da. Roedd ein panel profi yn methu cytuno beth roedden nhw’n ei hoffi amdano, ond roedden nhw i gyd yn ei hoffi. I rai, roedd e’n eu hatgoffa o rywbeth byddech chi’n ei brynu dros giât fferm – sgrympi go-iawn, yn llawn aroglau cefn gwlad. Roedd rhai eraill yn ei weld yn ddiod fwy mwyn na hynny. Ond roedd pawb yn gytûn, tasai hwn yn cael ei osod ger eich bron mewn tafarn, fe fyddech chi’n fodlon ei lymeitian trwy’r nos.

Pump seren, meddwn ni.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​