Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 89 (27 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5
Mae Henry Weston a’i ddisgynyddion yn gwneud seidr ym Much Marcle, sir Henffordd, ers 1880. Mae’n eglur eu bod nhw’n arbenigwyr ar afalau, ac erbyn hyn, maen nhw’n creu 30 math o seidr ar eu fferm ac yn ei allforio i 40 gwlad.
Lansiwyd Stowford Press LA yn ôl yn 1994, gan wneud Westons yn dipyn o arloeswyr ym myd diodydd llai-eu-halcohol. Gan fod rhyw dinc y ’90au ar y term “LA” (pwy sy’n cofio Tennet’s LA?), cafodd ei ail-lansio yn 2010 fel Stowford 0.5%.
Y peth cyntaf dylen ni ei ddweud am hwn yw ei fod e’n seidr o safon. Mae blas afalau seidr arno fe, ac mae dyfnder a chymhlethdod i’r blas. Mae’n troedio’n llwyddiannus y tir canol rhwng bod yn rhy felys (fel nifer o seidrau masnachol) a bod yn annioddefol o sur (fel ambell seidr garw gewch chi dros giât fferm).
Ar 0.5%, dyw hon ddim yn ddiod gwbl ddi-alcohol. Ond i ddiotwyr sy’n ceisio tocio ar y diota (yn hytrach nag ymwrthod yn llwyr) mae’n ddewis rhagorol. Fyddai neb yn ei gamgymryd am seidr traddodiadol ar 7% neu 8%, ond fel arall, go brin byddech chi’n sylweddoli eich bod chi’n yfed diod ac ynddi gyn lleied o alcohol.
Mae diwyg du-a-melyn smart y botel yn union fel seidr 4.5% Stowford Press, gan ogsoi’r camgymeriad cyffredin o wneud i ddiod ddi-alcohol ymddangos yn ddewis tlotach nag un alcoholaidd.
Nid oes ynddo fe ddim lliwiau, blasau na melysyddion artiffisial, na glwten chwaith. Mae’n addas i lysieuwyr a figaniaid ac wedi’i gymeradwyo’n kosher. Ac mae wedi’i aeddfedu mewn casgenni derw. Dyna sy’n rhoi iddo ei liw hyfryd, o bosibl.