Tesco Sauvignon Blanc

English | Cymraeg

Ein barn ar Tesco Sauvignon Blanc

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 125 (50 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Fel y coch islaw a’r rosé uwchben, mae gwin gwyn yma yn cael ei greu i Tesco gan Félix Solís, yn eu gwindy hanner ffordd rhwng Madrid a Grenada.

Yn anffodus, doedden ni ddim yn hoffi hwn hanner cymaint â’u rosé nhw. O ran ei liw, mae fe ychydig yn welw am Sauvignon Blanc (gyda lliw tebycach i berai, o bosibl). Mae hefyd yn felys iawn am Sauvignon Blanc. At ei gilydd, diod ffrwythaidd ddigon dymunol yw hi, ond dyw hi ddim yn agos iawn at win.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​