Tiny Rebel Rhubarb and Custard Sour Non Alc

English | Cymraeg

Ein barn ar Tiny Rebel Rhubarb and Custard Sour Non Alc.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%

Calorïau ymhob potelaid: 40 (12 ymhob 100ml)

Sgôr: 5 o 5

Tasen ni’n rhoi gwobr am y can gorau, byddai hwn – gyda’i batrwm byrlymus o binc a melyn – yn sicr o ennill. Mae’r cwrw tu fewn iddo yn eithaf da hefyd!

I bobl o dros eu deugain oed, mae’r ymadrodd “rhubarb and custard” yn dwyn i gof cartŵn o’r 1970au am gi melyn anturus a chath binc fileinig. Yn wir, mae’n debyg mai hiraeth am oes fwy diniwed yw sylfaen apêl y cwrw yma. Ynghyd â holl flasau arferol cwrw, yr blas amlycaf oll yw losin rhiwbob-a-chwstard hen-ffasiwn. Swnio’n uffernol? Mewn gwirionedd, mae’n rhyfeddol o neis. Mae’n weddol sicr na fydd at ddant caredigion cwrw traddodiadol, ond bydd llymeitwyr mwy anturus wrth eu bodd! Ynghyd â bragdy Drop Bear yn Abertawe, mae Tiny Rebel o Gasnewydd wedi torri cwys newydd ar ran bragwyr Cymru, i mewn i’r farchnad ddi-alcohol.

Prynon ni’r cwrw Rhiwbob a Chwstard yma mewn pecyn twt o bedwar cwrw 0.5% yn syth o’r bragdy.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​