Bavaria Shandy

English | Cymraeg

Ein Barn Ar Bavaria Shandy

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.9%
Calorïau ymhob can: 76 (23 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Er gwaetha’r enw, cwmni o’r Iseldiroedd yw Bavaria. Maen nhw’n bragu cwrw di-alcohol yno ers 1978 ond mae’r siandi yma – mewn can gwyrdd a gwyn twt – wedi ymddangos yn gymharol ddiweddar. Mae’n werth i ni ddweud yn gyntaf oll, os ydych chi’n chwilio am rywbeth cwbl ddi-alcohol, nad dyma’r ddiod i chi am fod ganddi gryfder ychydig o dan 1%. Fel arall, mae hi’n ddiod ddymunol iawn, yn union fel siandi hen-ffasiwn. Mae’n berffaith i dorri syched, ac i godi hiraeth am hafau’r 1970au ar bobl o oedran arbennig.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​