Toast Lemongrass Lager

English | Cymraeg

Ein barn ar Toast Lemongrass Lager

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhobcan: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 3 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Alice, sydd i’w cael ar Instagram fel alice_me0w

Mae cwrw Toast yma yn cael ei wneud o hen fara a the lemonwellt Teapigs, a’r ddau gwmni yn cydweithio er mwyn creu diod o ddeunyddiau a fyddai fel arall yn mynd yn wastraff. Mae’n gwbl ddi-blastig ac mae’r label yn rhoi gwybodaeth am effeithiau plastig ar greaduriaid y moroedd. Mae pob elw o’r cwrw yn mynd at yr elusen Feed Back Global, sy’n gweithio i leihau prinder bwyd.

Lager annisgwyl o dda yw hwn, er nad y lager di-alcohol gorau ges i erioed. Roedd yr arogl braidd yn llethol (oherwydd y lemonwellt, mae’n debyg). Efallai byddai can llai yn syniad da, gan fod 440ml dipyn bach yn ormod i mi.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​