Torres Natureo Muscat

English | Cymraeg

Ein barn ar Torres Natureo Muscat

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 60

Mae’r teulu Torres yn creu gwin yng ngogledd Sbaen ers 1870, pan benderfynodd Jaime a Miguel Torres Vendrell fynd i mewn i’r busnes diodydd. Pum cenhedlaeth yn nes ymlaen, maen nhw wrthi o hyd, gan ddod yn rhai o wneuthurwyr gwin mwyaf llwyddiannus Sbaen a’r byd.

Pan gafodd ei lansio yn 2008, Natureo Muscat oedd y gwin di-alcohol cyntaf o Sbaen, ac yn ôl y cwmni, mae ganddo “aroglau swynol blodau gwynion a ffrwythau ffres”. Ym marn ein paneli profi, mae’n win dymunol ond ddim yn un o’r goreuon, ac efallai’n rhy debyg i sudd grawnwin.

Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​