Ulmaņlaiku Kvass

English | Cymraeg

Ein barn ar Ulmaņlaiku Kvass

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 159 (28 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Doedden ddim yn gwbl sicr ym mha gategori i roi’r kvass yma, ond rhoddon ni fe yn y diwedd gyda’r Cwrw Traddodiadol. Mae’n ddiod draddodiadol, yn sicr, ond dyw e ddim yn hollol fel cwrw.

Er nad yw’n arbennig o adnabyddus yn y wlad yma, peth mawr yw kvass yn nwyrain Ewrop – daw’r Ulmaņlaiku Kvass yma o Latfia. Mae kvass yn cael ei wneud o rawn (neu weithiau o fara). Ambell waith ychwanegir ffrwyth hefyd. Mae Ulmaņlaiku Kvass wedi’i wneud o ryg, barlys ac ŷd. Cawson ni hefyd awgrym o geirios neu eirin. Mae ganddo liw coch hefyd. Mae’n llawer mwy byrlymus na’r rhan fwyaf o gwrw, a chryn dipyn yn fwy melys.

Mae ar werth mewn rhai o siopau Sainsbury’s ymhlith y cyrfau prin-eu-halcohol neu gyda'r bwydydd o Ddwyrain Ewrop.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​