Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 26
English | Cymraeg
Ein barn ar Theakston Nowt Peculiar.
Sgôr:
5/5
Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: 26
Mae bragdy teulu Theakston yn creu cwrw nodedig ers 1827. Mae eu diod fyd-enwog Old Peculier wedi’i henwi ar ôl un o swyddogion Canoloesol Archesgob Efrog. Dyw’r cwrw ei hun ddim mor hynafol â hynny ond mae e wedi’i ddisgrifio fel “y cwrw go-iawn gwreiddiol”. Mae’n adnabyddus hefyd am fod yn eithaf cryf.
Felly, sut mae Old Peculier heb yr alcohol? A dweud y gwir, mae’n dda iawn. Os yw cwrw tywyll, llawn brag at eich dant – yn y bôn, os ydych chi’n hoffi Old Peculier – byddwch chi’n hoffi hwn. Mae e fel y gwreiddiol ond yn ddi-alcohol.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.