Unltd Lager

English | Cymraeg

Ein barn ar Unltd Lager

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 23 (7 per 100ml)
Sgôr: 3 out of 5

Fel llawer cwrw di-alcohol, mae stori bersonol dda tu ôl i Unltd Lager.

Roedd sylfaenydd y bragdy, Johnny Johnson, yn gweithio’n galed ac yn yfed yn galed gyda’i gydweithwyr. Ond wrth iddo heneiddio fymryn, dechreuodd e feddwl efallai nad oedd y diota mor dda iddo, a phenderfynodd gymryd seibiant o’r slotian. Fel sawl un arall, dod o hyd i ddiodydd di-alcohol gwerthu eu hyfed oedd ei broblem nesaf. Felly, fe greodd ei ddiod ei hunan. Sgrifennon ni adolygiad ar y cwrw yma yn 2020, ond cafodd ei ailwampio yn 2021, felly dyma ni yn ei ad-adolygu!

Y peth cyntaf i’w ddweud amdani yw mai diod wych yr olwg yw hon. Mae Johnny wedi dweud nad oedd e am iddi ymddangos fel diod ddirwestol – “wedi’i phlastro â ffigurau 0% i gyd”. Llwyddodd yn hyn o beth: dyma botel brydferth tu hwnt, yn ddu trawiadol gydag ysgrifen arian. Dyw’r cwrw yn tu fewn i’r botel ddim yn rhy wael chwaith. Cwrw golau crefftus yw hwn, gyda mwy o hopys na lager arferol, a thipyn o frathiad chwerw. Mae’n ysgafn ac yn sicr o dorri’ch syched. Mae e ychydig yn denau, ond does dim o’r fath beth â diod berffaith!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​