Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 16
English | Cymraeg
Ein barn ar First Draught – diod ddirwestol gyda blas trofannol.
Sgôr:
4/5
Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 16
Crëwyd y cwrw gwelw 0.5% yma gan Wiper and True ym Mryste ar y cyd â Track Brewery ym Manceinion, ac mae’n enghraifft dda o sut mae’r farchnad ddi-alcohol yn datblygu. Dyma ddau fragdy sydd wedi ennill clod am eu cwrw o safon a’u pecynnau dengar, ac mae’r ddiod yma yn cyfuno’r gorau o waith y ddau dîm.
Mae diwyg y can yn syml a thrawiadol, ac wrth ei dywallt, mae First Draught i’w weld yn cynnig popeth dylai cwrw di-alcohol da: mae’n euraidd a chymylog, gyda digon o fywyd, a digon o ewyn sy’n aros, gan addo profiad boddhaol.
Y peth mwyaf annisgwyl yw’r ergyd chwerw drofannol. Yn ôl y broliant, Citra Hyperboost – sef olew hopys cryf – sy’n gyfrifol am hyn, ac roedd ein panel profi yn hoffi’r cymysgedd sitrws ffrwythus. Dyma elfen ychwanegol sy’n gwneud First Draught fymryn yn wahanol.
Mae Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.